Skip to content

Ymchwilydd Arweiniol

Cyflwyniad Swydd

Cyflwyniad Swydd: 

Mae IOPC yn sefydliad sy'n frith o hanes, wedi'i ddylanwadu gan ffigurau arwyddocaol fel Stephen Lawrence a Syr William Macpherson, sy'n goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ac yn gosod y safonau y dylai'r heddlu eu dilyn wrth ymdrin â chwynion. Fel sefydliad cwbl annibynnol, rydym yn ceisio cynnal hawliau'r cyhoedd ac ymchwilio i'r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys marwolaethau yn dilyn cyswllt â'r heddlu, er mwyn hyrwyddo dysgu a dylanwadu ar newid ym maes plismona. 

Fel Ymchwilydd Arweiniol, byddwch yn rhan o dîm ymchwiliadau dynamig sy'n gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ar ystod eang o ymchwiliadau sy'n aml yn llygad y cyhoedd, yn y gyfarwyddiaeth Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos. Mae IOPC ar daith i ddatblygu ei diwylliant, ei safbwyntiau a'i hethos i gefnogi canlyniadau craidd y sefydliad a dyma eich cyfle i ymuno â byd llawn amrywiaeth ymchwiliadau IOPC, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich meddylfryd a'ch dulliau o gyfrannu at wella system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r tîm ymchwiliadau yn gyfrifol am gynnal ein gwerthoedd wrth sefydlu'r ffeithiau y tu ôl i gŵyn a dod i gasgliadau er mwyn creu argymhellion. 

Fel Ymchwilydd Arweiniol, byddwch yn arwain pob agwedd ar ymchwiliad, o nodi'r cylch gorchwyl cychwynnol, i gasglu tystiolaeth, cyfweld â thystion, dod i gasgliadau, ac ysgrifennu adroddiad terfynol, ac mae llawer o’r adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi. Mae adroddiadau hefyd yn cynnwys argymhellion i'r heddlu neu'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ynghylch camau i'w cymryd i wella arferion ac atal camgymeriadau yn y dyfodol. Felly, mae'n hanfodol bod ag agwedd 'atebolrwydd gwybodaeth ddiwylliannol' at eich gwaith, fel eich bod yn cynhyrchu canlyniadau cyflawn a chadarn.   Ar ôl yr ymchwiliad, mae staff ymchwiliadau yn gyfrifol am gefnogi achosion troseddol, achosion disgyblu ac achosion crwner a allai ddilyn.     

 Mae natur y gwaith yn ei gwneud yn ofynnol i staff ymchwiliadau gymryd rhan mewn gwaith ar alwad y tu allan i oriau arferol, a byddwn yn talu lwfans priodol yn unol â pholisi IOPC.       

Bydd angen profiad perthnasol arnoch o gynnal ymchwiliadau mewn unrhyw sector, megis gwaith cymdeithasol, y gwasanaethau prawf, gorfodaeth mewn awdurdodau lleol neu wasanaethau rheoleiddio, yn ogystal â thwyll neu gyfiawnder troseddol. Rydym yn chwilio am rywun â sgiliau dadansoddol ac ysgrifennu adroddiadau datblygedig iawn, a gallu ac ymrwymiad i weithredu'n annibynnol. Mae IOPC yn wasanaeth cyhoeddus sy'n ceisio sicrhau bod pawb yn derbyn gwasanaeth cyfartal. Er mwyn gwireddu hyn, mae angen pobl arloesol sydd ag ymwybyddiaeth gymdeithasol i ymuno â ni. Mae IOPC wedi ymrwymo i ddatblygu meddylfryd tîm o unigolion amrywiol ac angerddol er mwyn iddynt wireddu eu hamcanion gyrfa wrth gyfrannu at wella hyder pobl mewn plismona.  

Mae'r rôl hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974; felly bydd gwiriad safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael ei gynnal ar yr ymgeisydd llwyddiannus yn ystod y broses cyn cyflogi.  

I ddysgu mwy am y rôl a’r broses asesu, rydym yn eich annog chi i ymuno ag un o’n sesiynau gwybodaeth dros Microsoft Teams. Gweler y ddogfen atodedig am ddyddiadau/amserau a gwybodaeth ymuno. 

Y broses ddethol

Ymgeisio

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant. I wybod mwy am hynny, cliciwch yma. Byddwn yn gofyn pedwar cwestiwn sifftio i chi ar y cam ymgeisio gan gynnwys cwestiwn Profiad a Gwerthoedd IOPC. Byddwn hefyd yn eich asesu yn erbyn ymddygiadau HEO y Gwasanaeth Sifil hyn yn ystod y broses ymgeisio: 

  • Gwneud penderfyniadau effeithiol
  • Cyfathrebu a dylanwadu

Cam 1: Cyfweliad – 20 i 29 Hydref

Os byddwch chi'n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad technegol trwy MS Teams a fydd yn para tua 30 munud. 

Cam 2: Y Ganolfan Asesu – 10 Tachwedd i 5 Rhagfyr

I'r rhai sy'n llwyddiannus yng ngham 1, cewch eich gwahodd i ganolfan asesu dau gam a fydd yn cynnwys cyfweliad ffurfiol, ymarfer chwarae rôl ac ymarferion ysgrifenedig. 

 Yn ystod camau 1 a 2 o'r broses recriwtio efallai y byddwn yn asesu eich Profiad, Ymddygiad, Cryfderau, sgiliau technegol a Gwerthoedd. 

Hyfforddiant  

Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 11 Mai 2026 a dilyn cyfnod cynefino a hyfforddiant. Fel rhan o'r rhaglen hyfforddi, byddwch yn dilyn Rhaglen Ymchwiliadau Proffesiynol Lefel 1 (PIP1) sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth fel ymchwilydd wrth weithio i gyflawni cymhwyster. Mae rhaglen PIP1 yn cynnwys dysgu ffurfiol a dysgu yn y gwaith yn ogystal â chymorth i adeiladu portffolio o dystiolaeth a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi ddod yn ymchwilydd PIP1. Hefyd, byddwch yn cwblhau achrediad Uned 4 Pearson sy'n ymwneud ag ymchwiliadau IOPC blaenllaw. Wrth i ni weithio i lansio PIP2, byddwch yn cael cyfle i wneud rhaglen PIP2 yn ddiweddarach. 

Mae hyfforddiant yn orfodol a bydd yn cael ei gyflwyno gyda chyfuniad o sesiynau o bell ac yn y cnawd. Bydd rhagor o fanylion am yr hyfforddiant ar gael i ymgeiswyr yn ddiweddarach.

Ar ôl cwblhau rhaglen PIP1, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y rhaglen ailddilysu. Mae ailddilysu yn sicrhau bod eich sgiliau a'ch gwybodaeth yn cael eu gwella a'u cynnal yn unol â gofynion PIP. Rhaid i chi gyfrannu'n llawn at y broses ailddilysu.  

Prif Gyfrifoldeb

  • Arwain ymchwiliadau annibynnol i honiadau troseddol a chamymddwyn yn unol â chanllawiau IOPC y cytunwyd arnynt.  
  • Cynnal ymchwiliadau o fewn amserlenni, cyllideb a safonau ansawdd y cytunwyd arnynt.  
  • Drafftio a chytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliadau penodol. 
  • Cyflawni camau ymchwilio, gan gynnwys cyfweld, a chymryd datganiadau, paratoi ffeiliau achos, a gwneud argymhellion ar gyfer camau troseddol a / neu ddisgyblu.  
  • Cymryd rhan mewn achosion troseddol, achosion camymddwyn ac achosion cwest lle bo angen.  
  • Adrodd i'ch Arweinydd Tîm Gweithrediadau ar gynnydd ymchwiliad, meysydd risg a gofynion o ran adnoddau.  
  • Cymryd rhan yn y shifft ar alwad 24 awr a bod yn barod i weithio oriau anghymdeithasol ac estynedig.  
  • Ymweld â lleoliad digwyddiadau a goruchwylio rheoli lleoliadau lle bo angen er mwyn sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i gadw ac adfer tystiolaeth.  
  • Mynychu archwiliadau post mortem a briffio'r patholegydd yn ôl yr angen. 
  • Ysgrifennu adroddiadau ymchwiliad ar ôl cwblhau'r ymchwiliad i'w cyflwyno i'r sawl sy’n gwneud y penderfyniad ar ran IOPC  
  • Cyfathrebu mewn ffordd effeithiol ag achwynwyr, teuluoedd mewn profedigaeth, a rhanddeiliaid mewnol ac allanol eraill.  
  • Gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gyda rhai sy'n gwneud penderfyniadau, cyfreithwyr, swyddogion y wasg ac eraill.
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol mewn maes ymchwilio dynamig sy'n esblygu'n gyson.  
  • Cynorthwyo'r Gyfarwyddiaeth i gyflawni ei chyflawniadau allweddol. Paratoi amserlenni datgelu ar gyfer achosion llys ac achosion cwest. 
  • Adolygu deunydd annymunol, cysylltu â theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth drawmatig, craffu allanol cadarn ar weithredoedd a phenderfyniadau.  
  • Derbyn cymorth/hyfforddiant agos gan reolwyr a mynediad at raglen gymorth helaeth i weithwyr.  
  • Nodi dysgu posibl ar gyfer heddluoedd i ystyried gwella'r gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu ac atal niwed i'r cyhoedd.  

 

Yr Ymgeisydd Delfrydol

Yr ymgeisydd delfrydol: 

Technegol Dymunol

• Cymhwyster PiP2 neu brofiad ymchwilio cyfatebol   

Profiad Hanfodol  

  • Cynnal cyfweliadau ymchwiliol, casglu tystiolaeth, dadansoddi a chyflwyno.  
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.  
  • Sgiliau rhagorol o ran dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau; gallu dod i benderfyniadau clir, rhesymegol, seiliedig ar dystiolaeth ac annibynnol yn seiliedig ar ddadansoddiad o wybodaeth sy'n bodoli'n barod a gwybodaeth sy'n dod i’r amlwg - a chofnodi hynny.  
  • Profiad o ymgysylltu'n effeithiol ag ystod amrywiol o bobl a rhanddeiliaid, a thystiolaeth o ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.  
  • Darparu gwaith o safon uchel o fewn amserlenni heriol.  
  • Adnabod risg weithredol a sefydliadol.  
  • Gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n newid.  
  • Trwydded yrru lawn sy’n ddilys ar gyfer gyrru yn y DU. 

Sgiliau a galluoedd hanfodol

  • Y gallu i ddangos mentergarwch ac addasu mewn amgylchedd sy'n newid.  
  • Ysgrifennu adroddiadau ymchwiliad ar ôl cwblhau'r ymchwiliad i'w cyflwyno i'r sawl sy’n gwneud penderfyniad ar ran IOPC.  
  • Cyfathrebu'n effeithiol ag achwynwyr, teuluoedd mewn profedigaeth, a rhanddeiliaid mewnol ac allanol eraill.  
  • Y gallu i gydnabod eich anghenion datblygu a bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â nhw.  
  • Y gallu i flaenoriaethu a rheoli tasgau'n effeithiol er mwyn cyflawni canlyniadau o safon o fewn amserlenni heriol.  
  • Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm gyda syniadau a phobl amrywiol.  
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ac addasu dulliau cyfathrebu fel y bo'n briodol.  

 Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.  Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)

Addasiadau Rhesymol: 

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir. 

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.  Er nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gweler isod addasiadau rhesymol posibl y gallwn eu darparu:

  • Amser ychwanegol ar gyfer cyflwyniadau neu gwestiynau cyfweliad
  • Newidiadau fformatio megis lliwiau ar gyfer testun neu gefndir ar aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau

Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i'n proses recriwtio, e-bostiwch recriwtio@policeconduct.gov.uk 

Disgrifiad Pecyn

Yr hyn rydym yn ei Gynnig: 

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith 
  • 32Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth

Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth.  Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan  https://www.childcarechoices.gov.uk


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod i gysylltiad [rheolaidd/achlysurol] â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol. O ystyried natur y gwaith,y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim. 

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol. Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu. 

Ynglŷn â'r Cwmni

Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn. 

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn. 

Fel cyflogwr Stonewall safon efydd, rydym yn parhau i ymrwymo i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar. 

Rydym yn falch o rannu ein bod wedi llofnodi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu ar gyfer arweinyddion a sefydliadau ar draws pob sector. 

Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.

Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.


Ceisio

This website is using cookies to improve your browsing experience. Tracking cookies are enabled but these do not collect personal or sensitive data. If you prefer for this not to be collected, please choose to turn cookies off below. Read more about cookies.